Gweithredu cudd

Elfen o gudd-wybodaeth yw gweithredu cudd sef y gallu i roi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau.[1][2] Mae gweithredu cudd yn cynnwys pedair is-ddisgyblaeth: propaganda, gweithredu gwleidyddol, gweithredu parafilwrol, a rhyfela gwybodaeth.[1] Mae gweithredu cudd yn anodd ei ddiffinio o fewn maes cudd-wybodaeth, a chwestiynir os yw'n rhan o ddisgyblaeth cudd-wybodaeth o gwbl gan ei fod yn ymwneud â gweithredu polisi tramor yn hytrach na chasglu a dadansoddi gwybodaeth y seilir polisi tramor arni.[3] Er hyn, cysylltir gweithredu cudd â chudd-wybodaeth gan fod asiantaethau cudd-wybodaeth gan amlaf yn ei weithredu.[4]

Mae'r CIA, asiantaeth cudd-wybodaeth dramor yr Unol Daleithiau, wedi gweithredu nifer o ymgyrchoedd cudd i newid llywodraethau mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Iran ym 1953, Gwatemala ym 1954, a Chile ym 1973. Mae asiantaethau cudd-wybodaeth Israel, yn enwedig Mossad, hefyd wedi cyflawni nifer o ymgyrchoedd cudd gan gynnwys cipiad Adolf Eichmann ym 1960 ac Ymgyrch Digofaint Duw i ladd cynllwynwyr cyflafan München.

  1. 1.0 1.1 Daugherty (2009), t. 281.
  2. Clark (2007), tt. 92–3.
  3. Shulsky a Schmitt (2002), t. 75.
  4. Clark (2007), t. 1.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search